Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 26 Hydref 2023
Amser:
09.19 -
13.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13775
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Darren Millar AS Sarah Murphy AS Jane Dodds AS |
Tystion: |
Yr Athro Laura
McAllister, Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad Y Gw. Anrh. Elin Jones AS, Y Llywydd, Llywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Alun Davidson, Clerc, Tîm Newid Cyfansoddiadol / Strategaeth Busnes Seneddol Yr Athro Diana Stirbu, Prifysgol Fetropolitan Llundain |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Catherine Roberts (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Josh Hayman (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.
2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Llywydd a Chomisiwn y Senedd
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Llywydd a Chomisiwn y Senedd.
Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am:
- Rôl Comisiwn y Senedd wrth gynhyrchu’r amcangyfrifon cost a gafodd eu cynnwys gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn ei adroddiad yn 2017, Senedd sy’n Gweithio i Gymru, a’r tybiaethau y seiliwyd yr amcangyfrifon hynny arnynt.
- Y penodiadau cyhoeddus a wneir gan y Senedd, yn enwedig eu cyfnodau yn y swydd ac effaith bosibl unrhyw newid yn hyd tymhorau’r Senedd ar benodiadau o’r fath.
4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion seneddol
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Diana Stirbu.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru - 2 Hydref 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.2 Ymateb y Pwyllgor Biliau Diwygio i’r Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru - 3 Hydref 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.3 Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynglŷn â deisebau ynghylch diwygio’r Senedd - 3 Hydref 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.4 Ymateb y Pwyllgor Biliau Diwygio i’r Pwyllgor Deisebau ynglŷn â deisebau ynghylch diwygio’r Senedd - 5 Hydref 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.5 Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 16 Hydref 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.6 Llythyr at gyn-Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 16 Hydref 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Briff technegol
Nododd y Pwyllgor y papur briffio cefndirol ychwanegol.